30 A phan ddaeth efe at yr ail, efe a ddywedodd yr un modd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Myfi a af, arglwydd; ac nid aeth efe.
31 Pa un o'r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedasant wrtho, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, yr â'r publicanod a'r puteiniaid i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.
32 Canys daeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y publicanod a'r puteiniaid a'i credasant ef: chwithau, yn gweled, nid edifarhasoch wedi hynny, fel y credech ef.
33 Clywch ddameg arall. Yr oedd rhyw ddyn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan, ac a osododd gae yn ei chylch hi, ac a gloddiodd ynddi winwryf, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref.
34 A phan nesaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr, i dderbyn ei ffrwythau hi.
35 A'r llafurwyr a ddaliasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant.
36 Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, fwy na'r rhai cyntaf: a hwy a wnaethant iddynt yr un modd.