33 Clywch ddameg arall. Yr oedd rhyw ddyn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan, ac a osododd gae yn ei chylch hi, ac a gloddiodd ynddi winwryf, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref.
34 A phan nesaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr, i dderbyn ei ffrwythau hi.
35 A'r llafurwyr a ddaliasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant.
36 Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, fwy na'r rhai cyntaf: a hwy a wnaethant iddynt yr un modd.
37 Ac yn ddiwethaf oll, efe a anfonodd atynt ei fab ei hun, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i.
38 A phan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, Hwn yw'r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a daliwn ei etifeddiaeth ef.
39 Ac wedi iddynt ei ddal, hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant.