42 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr ysgrythurau, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben congl: gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni?
43 Am hynny meddaf i chwi, Y dygir teyrnas Dduw oddi arnoch chwi, ac a'i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwythau.
44 A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn, efe a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a'i mâl ef yn chwilfriw.
45 A phan glybu'r archoffeiriaid a'r Phariseaid ei ddamhegion ef, hwy a wybuant mai amdanynt hwy y dywedai efe.
46 Ac a hwy yn ceisio ei ddala, hwy a ofnasant y torfeydd; am eu bod yn ei gymryd ef fel proffwyd.