6 Y disgyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchmynasai'r Iesu iddynt.
7 A hwy a ddygasant yr asen a'r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a'i gosodasant ef i eistedd ar hynny.
8 A thyrfa ddirfawr a daenasant eu dillad ar y ffordd; eraill a dorasant gangau o'r gwŷdd, ac a'u taenasant ar hyd y ffordd.
9 A'r torfeydd, y rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna i fab Dafydd: Bendigedig yw'r hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd: Hosanna yn y goruchafion.
10 Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Jerwsalem, y ddinas oll a gynhyrfodd, gan ddywedyd, Pwy yw hwn?
11 A'r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw Iesu y proffwyd o Nasareth yng Ngalilea.
12 A'r Iesu a aeth i mewn i deml Dduw, ac a daflodd allan bawb a'r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau'r newidwyr arian, a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod: