14 Canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.
15 Yna yr aeth y Phariseaid, ac a gymerasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd.
16 A hwy a ddanfonasant ato eu disgyblion ynghyd â'r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom dy fod yn eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion.
17 Dywed i ni gan hynny, Beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar, ai nid yw?
18 Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy, ac a ddywedodd, Paham yr ydych yn fy nhemtio i, chwi ragrithwyr?
19 Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant ato geiniog:
20 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw'r ddelw hon a'r argraff?