18 Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy, ac a ddywedodd, Paham yr ydych yn fy nhemtio i, chwi ragrithwyr?
19 Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant ato geiniog:
20 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw'r ddelw hon a'r argraff?
21 Dywedasant wrtho, Eiddo Cesar. Yna y dywedodd wrthynt, Telwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a'r eiddo Duw i Dduw.
22 A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a'i adael ef, a myned ymaith.
23 Y dydd hwnnw y daeth ato y Sadwceaid, y rhai sydd yn dywedyd nad oes atgyfodiad, ac a ofynasant iddo,
24 Gan ddywedyd, Athro, dywedodd Moses, Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a chyfoded had i'w frawd.