1 A'r Iesu a aeth allan, ac a ymadawodd o'r deml: a'i ddisgyblion a ddaethant ato, i ddangos iddo adeiladau'r deml.
2 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, Ni adewir yma garreg ar garreg, a'r ni ddatodir.
3 Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, y disgyblion a ddaethant ato o'r neilltu, gan ddywedyd, Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o'th ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd?
4 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi.
5 Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer.
6 A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffroer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw'r diwedd eto.