10 Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd.
11 A gau broffwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer.
12 Ac oherwydd yr amlha anwiredd, fe a oera cariad llawer.
13 Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.
14 A'r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy'r holl fyd, er tystiolaeth i'r holl genhedloedd: ac yna y daw'r diwedd.
15 Am hynny pan weloch y ffieidd‐dra anghyfanheddol, a ddywedwyd trwy Daniel y proffwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (y neb a ddarlleno, ystyried;)
16 Yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i'r mynyddoedd.