16 Yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i'r mynyddoedd.
17 Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i gymryd dim allan o'i dŷ:
18 A'r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad.
19 A gwae'r rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny.
20 Eithr gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf, nac ar y dydd Saboth:
21 Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechrau'r byd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith.
22 Ac oni bai fyrhau'r dyddiau hynny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny.