25 Wele, rhagddywedais i chwi.
26 Am hynny, os dywedant wrthych, Wele, y mae efe yn y diffeithwch; nac ewch allan: wele, yn yr ystafelloedd; na chredwch.
27 Oblegid fel y daw'r fellten o'r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.
28 Canys pa le bynnag y byddo'r gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod.
29 Ac yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hynny, y tywyllir yr haul, a'r lleuad ni rydd ei goleuni, a'r sêr a syrth o'r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.
30 Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau y ddaear; a hwy a welant Fab y dyn yn dyfod ar gymylau y nef, gyda nerth a gogoniant mawr.
31 Ac efe a ddenfyn ei angylion â mawr sain utgorn; a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghyd o'r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt.