33 Ac felly chwithau, pan weloch hyn oll, gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drysau.
34 Yn wir meddaf i chwi, Nid â'r genhedlaeth hon heibio, hyd oni wneler hyn oll.
35 Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
36 Ond am y dydd hwnnw a'r awr nis gŵyr neb, nac angylion y nefoedd, ond fy Nhad yn unig.
37 Ac fel yr oedd dyddiau Noe, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.
38 Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau ymlaen y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i'r arch,
39 Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw, a'u cymryd hwy oll ymaith; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.