36 Ond am y dydd hwnnw a'r awr nis gŵyr neb, nac angylion y nefoedd, ond fy Nhad yn unig.
37 Ac fel yr oedd dyddiau Noe, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.
38 Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau ymlaen y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i'r arch,
39 Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw, a'u cymryd hwy oll ymaith; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.
40 Yna y bydd dau yn y maes: y naill a gymerir, a'r llall a adewir.
41 Dwy a fydd yn malu mewn melin; un a gymerir, a'r llall a adewir.
42 Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd.