40 Yna y bydd dau yn y maes: y naill a gymerir, a'r llall a adewir.
41 Dwy a fydd yn malu mewn melin; un a gymerir, a'r llall a adewir.
42 Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd.
43 A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa wyliadwriaeth y deuai'r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.
44 Am hynny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn.
45 Pwy gan hynny sydd was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn pryd?
46 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly.