43 A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa wyliadwriaeth y deuai'r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.
44 Am hynny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn.
45 Pwy gan hynny sydd was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn pryd?
46 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly.
47 Yn wir meddaf i chwi, Ar ei holl dda y gesyd efe ef.
48 Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod;
49 A dechrau curo ei gyd‐weision, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon;