46 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly.
47 Yn wir meddaf i chwi, Ar ei holl dda y gesyd efe ef.
48 Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod;
49 A dechrau curo ei gyd‐weision, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon;
50 Arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl amdano, ac mewn awr nis gŵyr efe;
51 Ac efe a'i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda'r rhagrithwyr: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.