5 Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer.
6 A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffroer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw'r diwedd eto.
7 Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newyn, a nodau, a daeargrynfâu mewn mannau.
8 A dechreuad gofidiau yw hyn oll.
9 Yna y'ch traddodant chwi i'ch gorthrymu, ac a'ch lladdant: a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i.
10 Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd.
11 A gau broffwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer.