1 Yna tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddeg o forynion, y rhai a gymerasant eu lampau, ac a aethant allan i gyfarfod â'r priodfab.
2 A phump ohonynt oedd gall, a phump yn ffôl.
3 Y rhai oedd ffôl a gymerasant eu lampau, ac ni chymerasant olew gyda hwynt:
4 A'r rhai call a gymerasant olew yn eu llestri gyda'u lampau.
5 A thra oedd y priodfab yn aros yn hir, yr hepiasant oll ac yr hunasant.
6 Ac ar hanner nos y bu gwaedd, Wele, y mae'r priodfab yn dyfod; ewch allan i gyfarfod ag ef.