12 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid adwaen chwi.
13 Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch na'r dydd na'r awr y daw Mab y dyn.
14 Canys y mae teyrnas nefoedd fel dyn yn myned i wlad ddieithr, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei dda atynt.
15 Ac i un y rhoddodd efe bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ôl ei allu ei hun; ac yn y fan efe a aeth oddi cartref.
16 A'r hwn a dderbyniasai'r pum talent a aeth, ac a farchnataodd â hwynt, ac a wnaeth bum talent eraill.
17 A'r un modd yr hwn a dderbyniasai'r ddwy, a enillodd yntau ddwy eraill.
18 Ond yr hwn a dderbyniasai un, a aeth, ac a gloddiodd yn y ddaear, ac a guddiodd arian ei arglwydd.