8 A'r rhai ffôl a ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o'ch olew chwi: canys y mae ein lampau yn diffoddi.
9 A'r rhai call a atebasant, gan ddywedyd, Nid felly; rhag na byddo digon i ni ac i chwithau: ond ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain.
10 A thra oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodfab; a'r rhai oedd barod, a aethant i mewn gydag ef i'r briodas: a chaewyd y drws.
11 Wedi hynny y daeth y morynion eraill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni.
12 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid adwaen chwi.
13 Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch na'r dydd na'r awr y daw Mab y dyn.
14 Canys y mae teyrnas nefoedd fel dyn yn myned i wlad ddieithr, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei dda atynt.