11 A'r Iesu a safodd gerbron y rhaglaw: a'r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd.
12 A phan gyhuddid ef gan yr archoffeiriaid a'r henuriaid, nid atebodd efe ddim.
13 Yna y dywedodd Peilat wrtho, Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di?
14 Ac nid atebodd efe iddo i un gair; fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr.
15 Ac ar yr ŵyl honno yr arferai'r rhaglaw ollwng yn rhydd i'r bobl un carcharor, yr hwn a fynnent.
16 Ac yna yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas.
17 Wedi iddynt gan hynny ymgasglu ynghyd, Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Barabbas, ai'r Iesu, yr hwn a elwir Crist?