14 Ac nid atebodd efe iddo i un gair; fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr.
15 Ac ar yr ŵyl honno yr arferai'r rhaglaw ollwng yn rhydd i'r bobl un carcharor, yr hwn a fynnent.
16 Ac yna yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas.
17 Wedi iddynt gan hynny ymgasglu ynghyd, Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Barabbas, ai'r Iesu, yr hwn a elwir Crist?
18 Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasent ef.
19 Ac efe yn eistedd ar yr orseddfainc, ei wraig a ddanfonodd ato, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych â'r cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddiw mewn breuddwyd o'i achos ef.
20 A'r archoffeiriaid a'r henuriaid a berswadiasant y bobl, fel y gofynnent Barabbas, ac y difethent yr Iesu.