19 Ac efe yn eistedd ar yr orseddfainc, ei wraig a ddanfonodd ato, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych â'r cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddiw mewn breuddwyd o'i achos ef.
20 A'r archoffeiriaid a'r henuriaid a berswadiasant y bobl, fel y gofynnent Barabbas, ac y difethent yr Iesu.
21 A'r rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o'r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwythau a ddywedasant, Barabbas.
22 Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa beth gan hynny a wnaf i'r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Hwythau oll a ddywedasant wrtho, Croeshoelier ef.
23 A'r rhaglaw a ddywedodd, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwythau a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croeshoelier ef.
24 A Peilat, pan welodd nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynnwrf, a gymerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylo gerbron y bobl, gan ddywedyd, Dieuog ydwyf fi oddi wrth waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi.
25 A'r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd, Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant.