25 A'r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd, Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant.
26 Yna y gollyngodd efe Barabbas yn rhydd iddynt: ond yr Iesu a fflangellodd efe, ac a'i rhoddes i'w groeshoelio.
27 Yna milwyr y rhaglaw a gymerasant yr Iesu i'r dadleudy, ac a gynullasant ato yr holl fyddin.
28 A hwy a'i diosgasant ef, ac a roesant amdano fantell o ysgarlad.
29 A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a'i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddeau; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a'i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, brenin yr Iddewon.
30 A hwy a boerasant arno, ac a gymerasant y gorsen, ac a'i trawsant ar ei ben.
31 Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a'i diosgasant ef o'r fantell, ac a'i gwisgasant â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant ef ymaith i'w groeshoelio.