32 Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a'i enw Simon; hwn a gymellasant i ddwyn ei groes ef.
33 A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir, Lle'r benglog,
34 Hwy a roesant iddo i'w yfed, finegr yn gymysgedig â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed.
35 Ac wedi iddynt ei groeshoelio ef, hwy a ranasant ei ddillad, gan fwrw coelbren: er cyflawni'r peth a ddywedwyd trwy'r proffwyd, Hwy a ranasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisg y bwriasant goelbren.
36 A chan eistedd, hwy a'i gwyliasant ef yno:
37 A gosodasant hefyd uwch ei ben ef ei achos yn ysgrifenedig, HWN YW IESU, BRENIN YR IDDEWON.
38 Yna y croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddeau, ac un ar yr aswy.