39 A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau,
40 A dywedyd, Ti yr hwn a ddinistri'r deml, ac a'i hadeiledi mewn tridiau, gwared dy hun. Os ti yw Mab Duw, disgyn oddi ar y groes.
41 A'r un modd yr archoffeiriaid hefyd, gan watwar, gyda'r ysgrifenyddion a'r henuriaid, a ddywedasant,
42 Efe a waredodd eraill, ei hunan nis gall efe ei waredu. Os Brenin Israel yw, disgynned yr awron oddi ar y groes, ac ni a gredwn iddo.
43 Ymddiriedodd yn Nuw; gwareded efe ef yr awron, os efe a'i myn ef: canys efe a ddywedodd, Mab Duw ydwyf.
44 A'r un peth hefyd a edliwiodd y lladron iddo, y rhai a groeshoeliasid gydag ef.
45 Ac o'r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.