44 A'r un peth hefyd a edliwiodd y lladron iddo, y rhai a groeshoeliasid gydag ef.
45 Ac o'r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.
46 Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, lama sabachthani? hynny yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist?
47 A rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Eleias.
48 Ac yn y fan un ohonynt a redodd, ac a gymerth ysbwng, ac a'i llanwodd o finegr, ac a'i rhoddodd ar gorsen, ac a'i diododd ef.
49 A'r lleill a ddywedasant, Paid, edrychwn a ddaw Eleias i'w waredu ef.
50 A'r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â'r ysbryd.