47 A rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Eleias.
48 Ac yn y fan un ohonynt a redodd, ac a gymerth ysbwng, ac a'i llanwodd o finegr, ac a'i rhoddodd ar gorsen, ac a'i diododd ef.
49 A'r lleill a ddywedasant, Paid, edrychwn a ddaw Eleias i'w waredu ef.
50 A'r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â'r ysbryd.
51 Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddau oddi fyny hyd i waered: a'r ddaear a grynodd, a'r meini a holltwyd:
52 A'r beddau a agorwyd; a llawer o gyrff y saint a hunasent a gyfodasant,
53 Ac a ddaethant allan o'r beddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer.