51 Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddau oddi fyny hyd i waered: a'r ddaear a grynodd, a'r meini a holltwyd:
52 A'r beddau a agorwyd; a llawer o gyrff y saint a hunasent a gyfodasant,
53 Ac a ddaethant allan o'r beddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer.
54 Ond y canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaeargryn, a'r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydoedd hwn.
55 Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef:
56 Ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joses, a mam meibion Sebedeus.
57 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth gŵr goludog o Arimathea, a'i enw Joseff, yr hwn a fuasai yntau yn ddisgybl i'r Iesu: