55 Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef:
56 Ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joses, a mam meibion Sebedeus.
57 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth gŵr goludog o Arimathea, a'i enw Joseff, yr hwn a fuasai yntau yn ddisgybl i'r Iesu:
58 Hwn a aeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. Yna y gorchmynnodd Peilat roddi'r corff.
59 A Joseff wedi cymryd y corff, a'i hamdôdd â lliain glân,
60 Ac a'i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymaith.
61 Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a'r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â'r bedd.