59 A Joseff wedi cymryd y corff, a'i hamdôdd â lliain glân,
60 Ac a'i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymaith.
61 Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a'r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â'r bedd.
62 A thrannoeth, yr hwn sydd ar ôl y darpar‐ŵyl, yr ymgynullodd yr archoffeiriaid a'r Phariseaid at Peilat,
63 Gan ddywedyd, Arglwydd, y mae yn gof gennym ddywedyd o'r twyllwr hwnnw, ac efe eto yn fyw, Wedi tridiau y cyfodaf.
64 Gorchymyn gan hynny gadw'r bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd; rhag dyfod ei ddisgyblion o hyd nos, a'i ladrata ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd o feirw: a bydd yr amryfusedd diwethaf yn waeth na'r cyntaf.
65 A dywedodd Peilat wrthynt, Y mae gennych wyliadwriaeth; ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medroch.