63 Gan ddywedyd, Arglwydd, y mae yn gof gennym ddywedyd o'r twyllwr hwnnw, ac efe eto yn fyw, Wedi tridiau y cyfodaf.
64 Gorchymyn gan hynny gadw'r bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd; rhag dyfod ei ddisgyblion o hyd nos, a'i ladrata ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd o feirw: a bydd yr amryfusedd diwethaf yn waeth na'r cyntaf.
65 A dywedodd Peilat wrthynt, Y mae gennych wyliadwriaeth; ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medroch.
66 A hwy a aethant, ac a wnaethant y bedd yn ddiogel, ac a seliasant y maen, gyda'r wyliadwriaeth.