12 Ac wedi iddynt ymgasglu ynghyd gyda'r henuriaid, a chydymgynghori, hwy a roesant arian lawer i'r milwyr,
13 Gan ddywedyd, Dywedwch, Ei ddisgyblion a ddaethant o hyd nos, ac a'i lladratasant ef, a nyni yn cysgu.
14 Ac os clyw y rhaglaw hyn, ni a'i perswadiwn ef, ac a'ch gwnawn chwi yn ddiofal.
15 A hwy a gymerasant yr arian, ac a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt: a thaenwyd y gair hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw.
16 A'r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i'r mynydd lle yr ordeiniasai'r Iesu iddynt.
17 A phan welsant ef, hwy a'i haddolasant ef: ond rhai a ameuasant.
18 A'r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear.