1 Yna yr Iesu a arweiniwyd i fyny i'r anialwch gan yr Ysbryd, i'w demtio gan ddiafol.
2 Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ôl hynny efe a newynodd.
3 A'r temtiwr pan ddaeth ato, a ddywedodd, Os mab Duw wyt ti, arch i'r cerrig hyn fod yn fara.
4 Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Ysgrifennwyd, Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw.