16 Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch, a welodd oleuni mawr; ac i'r rhai a eisteddent ym mro a chysgod angau, y cyfododd goleuni iddynt.
17 O'r pryd hwnnw y dechreuodd yr Iesu bregethu, a dywedyd, Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.
18 A'r Iesu yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu ddau frodyr, Simon, yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; canys pysgodwyr oeddynt:
19 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ôl i, a mi a'ch gwnaf yn bysgodwyr dynion.
20 A hwy yn y fan, gan adael y rhwydau, a'i canlynasant ef.
21 Ac wedi myned rhagddo oddi yno, efe a welodd ddau frodyr eraill, Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd, mewn llong gyda Sebedeus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; ac a'u galwodd hwy.
22 Hwythau yn ebrwydd, gan adael y llong a'u tad, a'i canlynasant ef.