18 A'r Iesu yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu ddau frodyr, Simon, yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; canys pysgodwyr oeddynt:
19 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ôl i, a mi a'ch gwnaf yn bysgodwyr dynion.
20 A hwy yn y fan, gan adael y rhwydau, a'i canlynasant ef.
21 Ac wedi myned rhagddo oddi yno, efe a welodd ddau frodyr eraill, Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd, mewn llong gyda Sebedeus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; ac a'u galwodd hwy.
22 Hwythau yn ebrwydd, gan adael y llong a'u tad, a'i canlynasant ef.
23 A'r Iesu a aeth o amgylch holl Galilea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl.
24 Ac aeth sôn amdano ef trwy holl Syria; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai yr oedd amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, a'r rhai cythreulig, a'r rhai lloerig, a'r sawl oedd â'r parlys arnynt; ac efe a'u hiachaodd hwynt.