27 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na wna odineb;
28 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un sydd yn edrych ar wraig i'w chwenychu hi, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon.
29 Ac os dy lygad deau a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern.
30 Ac os dy law ddeau a'th rwystra, tor hi ymaith, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern.
31 A dywedwyd, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar:
32 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb: a phwy bynnag a briodo'r hon a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.
33 Trachefn, clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na thwng anudon; eithr tâl dy lwon i'r Arglwydd: