36 Ac na thwng i'th ben; am na elli wneuthur un blewyn yn wyn, neu yn ddu.
37 Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ie; Nage, nage; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn, o'r drwg y mae.
38 Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad, a dant am ddant:
39 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynnag a'th drawo ar dy rudd ddeau, tro'r llall iddo hefyd.
40 Ac i'r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gad iddo dy gochl hefyd.
41 A phwy bynnag a'th gymhello un filltir, dos gydag ef ddwy.
42 Dyro i'r hwn a ofynno gennyt; ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwynna gennyt.