4 Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir.
5 Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear.
6 Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir.
7 Gwyn eu byd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd.
8 Gwyn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw.
9 Gwyn eu byd y tangnefeddwyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw.
10 Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.