40 Ac i'r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gad iddo dy gochl hefyd.
41 A phwy bynnag a'th gymhello un filltir, dos gydag ef ddwy.
42 Dyro i'r hwn a ofynno gennyt; ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwynna gennyt.
43 Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn.
44 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melltithiant, gwnewch dda i'r sawl a'ch casânt, a gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a'ch erlidiant;
45 Fel y byddoch blant i'ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn.
46 Oblegid os cerwch y sawl a'ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna'r publicanod hefyd yr un peth?