1 Na fernwch, fel na'ch barner:
2 Canys â pha farn y barnoch, y'ch bernir; ac â pha fesur y mesuroch, yr adfesurir i chwithau.
3 A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?
4 Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gad imi fwrw allan y brycheuyn o'th lygad; ac wele drawst yn dy lygad dy hun?
5 O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun; ac yna y gweli'n eglur fwrw y brycheuyn allan o lygad dy frawd.
6 Na roddwch y peth sydd sanctaidd i'r cŵn, ac na theflwch eich gemau o flaen y moch; rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi a'ch rhwygo chwi.
7 Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi: