12 Am hynny pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw'r gyfraith a'r proffwydi.
13 Ewch i mewn trwy'r porth cyfyng: canys eang yw'r porth, a llydan yw'r ffordd sydd yn arwain i ddistryw; a llawer yw'r rhai sydd yn myned i mewn trwyddi:
14 Oblegid cyfyng yw'r porth, a chul yw'r ffordd, sydd yn arwain i'r bywyd; ac ychydig yw'r rhai sydd yn ei chael hi.
15 Ymogelwch rhag gau broffwydi, y rhai a ddeuant atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy.
16 Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A gasgl rhai rawnwin oddi ar ddrain, neu ffigys oddi ar ysgall?
17 Felly pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da; ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg.
18 Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da.