19 A rhyw ysgrifennydd a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro, mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.
20 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffeuau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr.
21 Ac un arall o'i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad.
22 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Canlyn fi; a gad i'r meirw gladdu eu meirw.
23 Ac wedi iddo fyned i'r llong, ei ddisgyblion a'i canlynasant ef.
24 Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cysgu.
25 A'i ddisgyblion a ddaethant ato, ac a'i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw ni: darfu amdanom.