15 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, A all plant yr ystafell briodas alaru tra fo'r priodfab gyda hwynt? ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodfab oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant.
16 Hefyd, ni ddyd neb lain o frethyn newydd at hen ddilledyn: canys y cyflawniad a dynn oddi wrth y dilledyn, a'r rhwyg a wneir yn waeth.
17 Ac ni ddodant win newydd mewn costrelau hen: os amgen, y costrelau a dyr, a'r gwin a red allan, a'r costrelau a gollir: eithr gwin newydd a ddodant mewn costrelau newyddion, ac felly y cedwir y ddau.
18 Tra oedd efe yn dywedyd hyn wrthynt, wele, daeth rhyw bennaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Bu farw fy merch yr awr hon; eithr tyred, a gosod dy law arni, a byw fydd hi.
19 A'r Iesu a gyfododd, ac a'i canlynodd ef, a'i ddisgyblion.
20 (Ac wele, gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd, a ddaeth o'r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef:
21 Canys hi a ddywedasai ynddi ei hun, Os caf yn unig gyffwrdd â'i wisg ef, iach fyddaf.