20 (Ac wele, gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd, a ddaeth o'r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef:
21 Canys hi a ddywedasai ynddi ei hun, Os caf yn unig gyffwrdd â'i wisg ef, iach fyddaf.
22 Yna yr Iesu a drodd; a phan ei gwelodd hi, efe a ddywedodd, Ha ferch, bydd gysurus; dy ffydd a'th iachaodd. A'r wraig a iachawyd o'r awr honno.)
23 A phan ddaeth yr Iesu i dŷ'r pennaeth, a gweled y cerddorion a'r dyrfa yn terfysgu,
24 Efe a ddywedodd wrthynt, Ciliwch; canys ni bu farw y llances, ond cysgu y mae hi. A hwy a'i gwatwarasant ef.
25 Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi; a'r llances a gyfododd.
26 A'r gair o hyn a aeth dros yr holl wlad honno.