28 Ac wedi iddo ddyfod i'r tŷ, y deillion a ddaethant ato: a'r Iesu a ddywedodd wrthynt, a ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Hwy a ddywedasant wrtho, Ydym, Arglwydd.
29 Yna y cyffyrddodd efe â'u llygaid hwy, gan ddywedyd, Yn ôl eich ffydd bydded i chwi.
30 A'u llygaid a agorwyd: a'r Iesu a orchmynnodd iddynt trwy fygwth, gan ddywedyd, Gwelwch nas gwypo neb.
31 Ond wedi iddynt ymado, hwy a'i clodforasant ef trwy'r holl wlad honno.
32 Ac a hwy yn myned allan, wele, rhai a ddygasant ato ddyn mud, cythreulig.
33 Ac wedi bwrw y cythraul allan, llefarodd y mudan: a'r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni welwyd y cyffelyb erioed yn Israel.
34 Ond y Phariseaid a ddywedasant, Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae ef yn bwrw allan gythreuliaid.