Micha 1 BNET

1 Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Micha o Moresheth. Roedd yn proffwydo pan oedd Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd ar Jwda. Dyma ddangosodd Duw iddo am Samaria a Jerwsalem.

Dinistrio Samaria yn rhybudd i Jerwsalem

2 Gwrandwch, chi bobl i gyd!Cymrwch sylw, bawb sy'n byw drwy'r byd!Mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn dyst yn eich erbyn;mae'n eich cyhuddo chi o'i deml sanctaidd.

3 Edrychwch! Mae'r ARGLWYDD yn dod!Mae'n dod i lawr ac yn sathru'r mynyddoedd!

4 Bydd y mynyddoedd yn dryllio dan ei draed,a'r dyffrynnoedd yn hollti.Bydd y creigiau'n toddi fel cwyr mewn tân,ac yn llifo fel dŵr ar y llethrau.

5 Pam? Am fod Jacob wedi gwrthryfela,a pobl Israel wedi pechu.Sut mae Jacob wedi gwrthryfela?Samaria ydy'r drwg!Ble mae allorau paganaidd Jwda?Yn Jerwsalem!

6 “Dw i'n mynd i droi Samariayn bentwr o gerrig mewn cae agored –bydd yn lle i blannu gwinllannoedd!Dw i'n mynd i hyrddio ei waliau i'r dyffryna gadael dim ond sylfeini'n y golwg.

7 Bydd ei delwau'n cael eu dryllio,ei thâl am buteinio yn llosgi'n y tân,a'r eilunod metel yn bentwr o sgrap!Casglodd nhw gyda'i thâl am buteinio,a byddan nhw'n troi'n dâl i buteiniaid eto.”

8 Dyna pam dw i'n galaru a nadu,a cherdded heb sandalau ac mewn carpiau;yn udo'n uchel fel siacaliaid,a sgrechian cwyno fel cywion estrys.

9 Fydd salwch Samaria ddim yn gwella!Mae wedi lledu i Jwda –mae hyd yn oed arweinwyr fy mhoblyn Jerwsalem wedi dal y clefyd!

Mae'r gelyn ar ei ffordd

10 ‛Peidiwch dweud am y peth yn Gath!‛Peidiwch crïo rhag iddyn nhw eich clywed!Bydd pobl Beth-leaffra yn rholio yn y llwch.

11 Bydd pobl Shaffir yn pasio heibioyn noeth ac mewn cywilydd.Bydd pobl Saänan yn methu symud,a Beth-haetsel yn gwneud dim ond galaru –fydd hi ddim yn dy helpu eto.

12 Bydd pobl Maroth yn aflonyddwrth ddisgwyl am rywbeth gwell i ddigwyddna'r difrod mae'r ARGLWYDD wedi ei anfon,ac sy'n gwasgu ar giatiau Jerwsalem.

13 Clymwch eich cerbydau wrth y ceffylau,bobl Lachish!Chi wnaeth wrthryfela fel Israelac arwain pobl Seion i bechu!

14 Bydd rhaid i chi ddweud ffarwélwrth Moresheth-gath,a bydd tai Achsib yn siomi –bydd fel ffynnon wedi sychu i frenhinoedd Israel.

15 Bobl Maresha, bydd gelyn yn dod i goncro a dal eich tref,a bydd arweinwyr Israel yn ffoi i ogof Adwlam eto.

16 Felly, Jerwsalem, siafia dy ben i alaruam y plant rwyt ti'n dotio atyn nhw.Gwna dy dalcen yn foel fel y fwltur,am fod y gelyn yn mynd i'w cymryd nhw'n gaeth.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7