Micha 2 BNET

Bydd Duw yn cosbi'r rhai sy'n sathru'r tlawd

1 Gwae nhw, y rhai sy'n dyfeisio drygionia gorweddian ar eu gwlâu yn cynllwynio.Wedyn codi gyda'r wawr i wneud y drwg –maen nhw'n gwneud beth maen nhw eisiau.

2 Maen nhw'n cymryd y tir maen nhw'i eisiau,ac yn dwyn eu tai oddi ar bobl.Maen nhw'n cipio cartrefi trwy dwyll a thraisac yn dwyn etifeddiaeth pobl eraill.

3 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Dw i'n cynllunio i ddod â dinistr ar y criw pobl yma.Fydd dim modd i chi ddianc!Dim mwy o swancio i chi! –mae pethau'n mynd i fod yn ddrwg!

4 Bryd hynny, bydd pobl yn gwneud hwyl am eich pen chidrwy ganu galarnad i chi'n sbeitlyd –‘Mae ar ben arnon ni!Mae ein tir yn cael ei werthu!Mae Duw wedi cymryd y cwbl,a rhoi ein tir i fradwyr anffyddlon!’”

5 Felly fydd neb yn mesur y tir etoi chi gael siâr ohonogyda phobl yr ARGLWYDD.

6 “Stopia falu awyr!” medden nhw'n lloerig.“Ddylai neb siarad fel yna!Fyddwn ni ddim yn cael ein cywilyddio.”

7 Ai fel hyn mae pobl Jacob yn meddwl? –“Dydy'r ARGLWYDD ddim yn colli ei dymer.Fyddai e byth yn gwneud y fath beth!”“Mae'r pethau da dw i'n eu haddo yn digwyddi'r rhai sy'n byw yn iawn.

8 Ond yn ddiweddar mae fy mhoblwedi codi yn fy erbyn fel gelyn.Dych chi'n dwyn y fantell a'r crysoddi ar bobl ddiniwed sy'n pasio heibiofel milwyr yn dod adre o ryfel.

9 Dych chi'n gyrru gweddwon o'u cartrefi clyd,a dwyn eu heiddo oddi ar eu plant am byth.

10 Felly symudwch! I ffwrdd â chi!Does dim lle i chi orffwys yma!Dych chi wedi llygru'r lle,ac wedi ei ddifetha'n llwyr!

11 Petai rhywun yn dod heibioyn malu awyr a thwyllo,‘Dw i'n addo y cewch chi joiodigonedd o win a chwrw!’ –byddech wrth eich bodd yn gwrando ar hwnnw!

Nodyn o obaith

12 Bydda i'n eich casglu chi i gyd, bobl Jacob.Bydda i'n galw pawb sydd ar ôl yn Israelat ei gilydd fel defaid mewn corlan.Byddwch fel praidd yng nghanol eu porfayn brefu, yn dyrfa enfawr o bobl.

13 Bydd yr un sy'n torri trwoddyn eu harwain nhw allan i ryddid.Byddan nhw'n mynd allan drwy'r giatiaua gadael gyda'u brenin ar y blaen.Yr ARGLWYDD ei hun fydd yn eu harwain!”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7