Micha 3 BNET

Arweinwyr Jwda ar fai

1 Yna dywedais,“Gwrandwch, arweinwyr Jacob,chi sy'n arwain pobl Israel.Dylech wybod beth ydy cyfiawnder!

2 Ond dych chi'n casáu'r daac yn caru'r drwg!Dych chi'n blingo fy mhobl yn fyw,ac yn ymddwyn fel canibaliaid!

3 Dych chi'n bwyta cnawd fy mhobl,yn eu blingo nhw'n fywa malu eu hesgyrn.Torri eu cyrff yn ddarnaufel cig i'w daflu i'r crochan.”

4 Ryw ddydd byddan nhw'n galw ar yr ARGLWYDD am help,ond fydd e ddim yn ateb.Bydd e'n troi ei gefn arnyn nhw bryd hynnyam eu bod wedi gwneud cymaint o ddrwg.

Yn erbyn y proffwydi

5 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth y proffwydi:“Dych chi'n camarwain fy mhobl!Dych chi'n addo heddwch am bryd o fwyd,ond os na gewch chi'ch taludych chi'n bygwth rhyfel!

6 Felly bydd hi'n nos arnoch chi, heb weledigaeth –byddwch yn y tywyllwch, yn gallu dehongli dim.Bydd yr haul wedi machlud arnoch chi,a'ch dydd wedi dod i ben!

7 Bydd cywilydd ar y proffwydi,a bydd y dewiniaid wedi drysu.Fyddan nhw'n dweud dim,am fod Duw ddim yn ateb.”

8 Ond dw i, ar y llaw arall, yn llawno nerth Ysbryd yr ARGLWYDDac yn credu'n gryf mewn cyfiawnder.Dw i'n herio Jacob am ei wrthryfel,ac yn gwneud i Israel wynebu ei phechod.

Yn erbyn y sefydliad

9 Gwrandwch, arweinwyr Jacob,chi sy'n arwain pobl Israel –chi sy'n casáu cyfiawnderac yn gwyrdroi'r gwir.

10 Dych chi'n adeiladu Seion trwy drais,a Jerwsalem trwy lygredd a thwyll.

11 Mae'r barnwyr yn derbyn breib,yr offeiriaid yn dysgu am elw,a'r proffwydi'n dehongli am dâl –tra'n honni pwyso ar yr ARGLWYDD!“Mae'r ARGLWYDD gyda ni!” medden nhw.“Does wir ddim dinistr i ddod!”

12 Felly chi sydd ar fai!Bydd Seion yn cael ei haredig fel cae,a bydd Jerwsalem yn bentwr o gerrig.Bydd y bryn ble mae'r deml yn sefyllyn goedwig wedi tyfu'n wyllt.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7