1 Ar hyn o bryd rwyt ti'n torri dy hun â chyllyllti ddinas dan ymosodiad!Mae'r gelyn yn gwarchae arnon ni!Maen nhw'n taro arweinydd Israelar y foch gyda theyrnwialen.
2 Ond wedyn ti, Bethlehem Effrata,rwyt ti'n un o'r pentrefilleiaf pwysig yn Jwda.Ond ohonot ti y daw unfydd yn teyrnasu yn Israel –Un sydd â'i wreiddiau yn mynd yn ôli'r dechrau yn y gorffennol pell.
3 Felly bydd yr ARGLWYDDyn rhoi pobl Israel i'r gelyn,hyd nes bydd yr un sy'n cael y babiwedi geni'r plentyn.Wedyn bydd gweddill ei deulu yn dod adreat blant Israel.
4 Bydd yn codi i arwain ei boblfel bugail yn gofalu am ei braidd.Bydd yn gwneud hyn yn nerth yr ARGLWYDDa gydag awdurdod yr ARGLWYDD ei Dduw.Byddan nhw yno i aros,achos bydd e'n cael ei anrhydeddugan bawb i ben draw'r byd.
5 Bydd e'n dod â heddwch i ni.Os bydd Asyria'n ymosod ar ein tirac yn ceisio mynd i mewn i'n plastai,bydd digon o arweinwyr i'w rhwystro!
6 Byddan nhw'n rheoli Asyria gyda'r cleddyf;gwlad Nimrod gyda llafnau parod!Bydd ein brenin yn ein hachubpan fydd Asyria'n ymosod ar ein gwlad,ac yn ceisio croesi ein ffiniau.
7 Bydd pobl Jacob sydd ar ôlar wasgar yng nghanol y bobloedd,fel y gwlith mae'r ARGLWYDD yn ei anfon,neu gawodydd o law ar laswellt –sydd ddim yn dibynnu ar boblna disgwyl am eu caniatâd cyn dod.
8 Bydd pobl Jacob sydd ar ôlyn byw yn y gwledydd,ar wasgar yng nghanol y bobloedd.Byddan nhw fel llew yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion,neu lew ifanc yng nghanol praidd o ddefaid –yn rhydd i ladd a rhwygoheb neb i'w stopio.
9 Byddi'n codi dy law i daro'r rhai sy'n dy erbyn,a dinistrio dy elynion i gyd!
10 “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD,“bydda i'n cael gwared â'ch arfau i gyd –y ceffylau a'r cerbydau rhyfel.
11 Bydda i'n dinistrio trefi'r wladac yn bwrw i lawr y caerau amddiffynnol.
12 Bydda i'n stopio eich dewino a'ch swynion,a fydd neb ar ôl i ddweud ffortiwn.
13 Bydda i'n dinistrio eich delwau cerfiediga'ch colofnau cysegredig.Fyddwch chi byth eto yn plygui addoli gwaith eich dwylo eich hunain.
14 Bydda i'n diwreiddio polion y dduwies Ashera,ac yn dinistrio eich eilun-dduwiau.
15 Bydda i'n dial yn wylltar y gwledydd sy'n gwrthod gwrando arna i.”