1 Yna dywedais,“Gwrandwch, arweinwyr Jacob,chi sy'n arwain pobl Israel.Dylech wybod beth ydy cyfiawnder!
2 Ond dych chi'n casáu'r daac yn caru'r drwg!Dych chi'n blingo fy mhobl yn fyw,ac yn ymddwyn fel canibaliaid!
3 Dych chi'n bwyta cnawd fy mhobl,yn eu blingo nhw'n fywa malu eu hesgyrn.Torri eu cyrff yn ddarnaufel cig i'w daflu i'r crochan.”
4 Ryw ddydd byddan nhw'n galw ar yr ARGLWYDD am help,ond fydd e ddim yn ateb.Bydd e'n troi ei gefn arnyn nhw bryd hynnyam eu bod wedi gwneud cymaint o ddrwg.
5 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth y proffwydi:“Dych chi'n camarwain fy mhobl!Dych chi'n addo heddwch am bryd o fwyd,ond os na gewch chi'ch taludych chi'n bygwth rhyfel!
6 Felly bydd hi'n nos arnoch chi, heb weledigaeth –byddwch yn y tywyllwch, yn gallu dehongli dim.Bydd yr haul wedi machlud arnoch chi,a'ch dydd wedi dod i ben!
7 Bydd cywilydd ar y proffwydi,a bydd y dewiniaid wedi drysu.Fyddan nhw'n dweud dim,am fod Duw ddim yn ateb.”